Lleoliad:
[INSERT LOCATION]
Dyddiad: Dydd Llun, 16 Ionawr 2023
Amser: 09.34 - 10.46
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13194
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Vikki Howells AS (Cadeirydd) Natasha Asghar AS John Griffiths AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
Rachel Davies Teka, Tryloywder Rhyngwladol y DU |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd datganiadau o fuddiant na dirprwyon.
2 Ymchwiliad i Lobïo: Sesiwn dystiolaeth
2.1 Trafododd y Pwyllgor lobïo â Rachel Davies Teka, Cyfarwyddwr Eiriolaeth, Tryloywder Rhyngwladol y DU.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
3.1 Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
4 Ymchwiliad i Lobïo: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
5 Blaenraglen Waith: ymchwiliadau yn y dyfodol
5.1 Trafododd y Pwyllgor flaenraglen waith y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, wrth i'r ymchwiliad cyfredol i lobïo ddirwyn i ben.
6 Papurau i'w nodi - Ymchwiliad i Grwpiau Trawsbleidiol
6.1 Nododd y Pwyllgor eto’r papurau a drafodwyd yn y cyfarfod blaenorol a ddaeth i ben am nad oedd cworwm.
6.2 Cadarnhaodd y Pwyllgor gytundeb i fân newidiadau i'r Grwpiau Trawsbleidiol a drafodwyd yn y cyfarfod blaenorol.